Manylion Pen Y Garn  

  •  Prif Nodweddion 

  • Cartref unigryw gyda phedair ystafell wely ddwbl, cegin ffarm a thair ystafell dderbyn ynghyd ag ystafell haul.   

  • Dros erw o erddi ysblennydd gan gynnwys mannau i eistedd a phyllau dŵr. 

  • Cynllun hyblyg i’r tŷ sy’n caniatáu opsiynau byw annibynnol. 

  • Adeilad swyddfa ar wahân wedi’i hadeiladu’n broffesiynol. 

  • Pwynt gwefru cerbyd trydan (7kw)   

Hanes Pen Y Garn  

Mae cynlluniau hanesyddol yn dangos bod Pen Y Garn wedi’i adeiladu ryw dro cyn 1842. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys y prif dŷ, gydag adeilad cysylltiedig i anifeiliaid, a ddaeth yn annedd fach, ac sydd bellach yn ffurfio ystafell fwyta’r prif dŷ. Ychwanegwyd rhagor o welliannau i Pen Y Garn gyda thri estyniad, ac ers iddynt ei brynu yn 2012, mae’r perchnogion presennol wedi ei foderneiddio’n helaeth. 

Mae’r tŷ wedi’i leoli ar safle hen chwarel calchfaen a ddatgomisiynwyd ddiwedd y 19eg ganrif. Credir bod meini o’r chwarel wedi’u defnyddio i adeiladu Castell Cydweli ac yn ddiweddarach chwaraeodd ran yn Nherfysgoedd Beca ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae tair odyn galch a fyddai’n gwasanaethu’r chwarel yn dal i sefyll. Mae un o’r rhain i’w gweld o’r ffordd sy’n arwain o Pen Y Garn i lawr i gyfeiriad Drefach. 

Lleoliad Pen Y Garn  

Er bod Pen y Garn mewn llecyn tawel gwledig, mae hefyd yn agos i’r A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, a 9 munud yn unig o ben yr M4 sy’n cynnig mynediad rhwydd i Abertawe, Caerdydd a Lloegr. 

Mae tref lewyrchus Caerfyrddin 10 milltir i ffwrdd, a gellir gyrru yno’n rhwydd o fewn 12 munud. Yng Nghaerfyrddin ceir nifer o siopau Stryd Fawr, tai bwyta arobryn ac orielau celf. Mae Llandeilo, sydd o fewn 11 milltir ac 20 munud o daith yn y car, yn gyforiog o siopau annibynnol a chynhelir gŵyl lenyddol a chelfyddydol flynyddol yn y dref. O fewn 22 milltir mae pentref Talacharn, lle bu Dylan Thomas yn byw ac yn gweithio, ac sy’n cynnal gŵyl lenyddol flynyddol o fri rhyngwladol.

O fewn hanner awr o daith o Pen Y Garn ceir dewis o draethau gan gynnwys Cefn Sidan, traeth baner las â thros wyth milltir o dywod perffaith. I’r dwyrain, gellir cyrraedd Bannau Brycheiniog o fewn hanner awr. 

Ymhellach i’r gorllewin, mae’n hawdd cyrraedd Sir Benfro ac mae’r perchnogion presennol yn cadw cwch ar Afon Cleddau ger Aberdaugleddau. Ceir marina hefyd yn Abertawe a Phorth Tywyn. 

Pen Y Garn Heddiw  

Prynodd y perchnogion presennol Pen Y Garn yn 2012.   

Mae’r tŷ’n cynnwys pedair ystafell wely ddwbl, tair prif ystafell dderbyn, cegin fferm ac ystafell haul. Y nodwedd amlycaf yw’r ardd unigryw, ychydig dros erw o dir wedi’i dirlunio o gwmpas yr eiddo, sy’n denu amrywiaeth eang o adar i ymweld ac i fwynhau’r mannau porthi. 

Yn yr ardd ceir swyddfa sydd wedi’i hadeiladu’n bwrpasol, lle mae’r perchnogion presennol wedi rhedeg busnes. Byddai’n lle rhagorol i gynnal unrhyw fusnes neu weithgaredd hamdden. Ceir dau adeilad sylweddol arall sy’n darparu gweithdy a chwt potio/stiwdio. Yng ngardd y gegin ceir tŷ gwydr cedrwydd a theras o welyau uchel i’r llysiau. 

Ceir tri phwll dŵr sy’n denu bywyd gwyllt i’r ardd. Agorir yr ardd dan y Cynllun Gerddi Cenedlaethol (“Llyfr Melyn”). 

Mae ystafelloedd y ty’n hyblyg iawn. Mae rhai wedi’u defnyddio fel llety gwyliau hunangynhwysol dwy ystafell wely sydd wedi ennill gwobrau, a gellid defnyddio’r rhan honno o’r tŷ fel lle i blant hŷn neu berthynas fyw’n annibynnol. 

Mynedfa 

Mae safle Pen Y Garn ar ffordd dawel rhwng Foelgastell a Drefach, gyda mynediad dros ddreif â gât heibio’r unig eiddo cyfagos arall, Castell.    

Gyda lle parcio i’r chwith o’r dreif, ceir mynediad i’r tŷ drwy borth derw a drws cyfansawdd â ffenest. Mae hwn yn arwain at gyntedd gyda mat drws wedi’i fewnosod, llawr â theils a theils chwarel, wal â phaneli pren a mainc eistedd bren gyda lle i storio esgidiau oddi tani a chotiau uwchlaw. 

Ceir cwpwrdd o dan y grisiau gyda silffoedd storio. Rheiddiadur. 

Ystafell Gotiau 

Yn arwain o’r cyntedd, ceir drws pren onnen soled i’r ystafell gotiau ac ardal amlbwrpas gyda ffitiadau haearn du a ffenest wydr lliw artisan. Ceir ffenest gwydr dwbl UPVC i’r blaen. Llawr teils.

Mae yma doiled lefel isel gyda basn llaw cyfannol.   

Ceir plymio a phŵer ar gyfer peiriant golchi a pheiriant sychu. Rheiddiadur. Cwpwrdd crasu dillad. 

Cegin Ffarm 

Mae’r cyntedd yn arwain at gegin ar ddull tŷ ffarm gyda llawr teils chwarel coch. Ceir tair ffenest gwydr dwbl UPVC i’r ochr a’r cefn. Mae drws UPVC â gwydr rhannol yn rhoi mynediad i’r ardd gefn. Bleindiau delltog pren ar y ffenestri. Ceir dau olau nenfwd â gorffeniad pres. 

Ffwrn fodern Belling Range ddu sydd â ffwrn ddwbl, gridyll ar wahân, hob anwytho gyda chynheswr platiau. 

Yn y gegin hefyd ceir unedau wal a sylfaen, sinc Belfast â thap cymysg a pheiriant golchi llestri Beko newydd. 

Gosodwyd boeler olew modern Worcester Bosch ddwy flynedd yn ôl gyda 

Thermostat wal newydd. Rheiddiadur gyda rheilen dywelion uwchlaw. 

Ceir agoriad gweini i’r ystafell fwyta. 

Ystafell Fwyta 

Mae drws derw soled yn arwain o’r cyntedd i’r ystafell fwyta sydd â llawr teils, ffenestri UPVC i’r blaen a rheiddiadur. Ceir agoriad gweini i’r gegin gyda drysau onnen soled. 

Drws onnen soled gyda ffitiadau haearn du’n arwain at:   

Lolfa  

Daw pum gris â chi i mewn i’r lolfa, calon Pen Y Garn. Dyma ystafell drawiadol, gyfforddus a chroesawgar gyda llawr teils, goleuadau wal a nenfwd.  

Canolbwynt yr ystafell yw’r lle tân carreg gyda phentan pren soled a Llosgwr Coed Purevision 5kw a osodwyd ddwy flynedd yn ôl, ar yr un pryd ag y cafodd y simnai ei ail-leinio. Monitor CO2. 

Hefyd ceir pwynt teledu lloeren, silffoedd llyfrau gosod helaeth, a man storio. Dwy ffenest UPVC i’r blaen a dau reiddiadur. Polion llenni metel. Drysau pren dwbl gwydr yn arwain i’r Ystafell Haul. 

Ystafell Haul 

Ystafell haul UPVC fodern gan Leekes o Cross Hands yn edrych dros yr ardd flaen. Llawr teils. Rheiddiadur a bleindiau fertigol. 

Ffan a golau ar y nenfwd. 

Drws UPVC i’r ardd.  

Ystafell yr Ardd 

Ceir drws onnen soled gyda ffitiadau haearn du o’r lolfa i ystafell yr ardd, sydd wedi’i defnyddio fel uned hunangynhwysol (llety gwyliau). 

Llawr teils a phren laminedig. Llosgwr coed Contura wedi’i osod yn 2013. Monitor CO2. Drws patio diweddar i deras yr ardd a golygfeydd dros yr ardd gefn a’r chwarel. Tri rheiddiadur. Pwynt teledu. 

Ceir Dreser Gymreig a chyfres fach o unedau cegin, ffwrn drydan Zanussi a lwfer popty Hotpoint. Mae’r perchnogion presennol yn defnyddio’r gegin hon pan fyddan nhw’n paratoi barbeciw ac yn ystod y penwythnosau gardd agored. 

Ffenest UPVC ychwanegol i’r cefn a drws UPVC gwydr rhannol i’r ochr. Mat drws wedi’i fewnosod. Polion llenni metel. 

Ystafell Amlbwrpas 

Oddi ar ystafell yr ardd ceir ardal amlbwrpas fach gyda pheiriant golchi a sychu Indesit, peiriant golchi llestri Zanussi a sinc dur gwrthstaen gyda thap cymysg. Ceir boeler olew Worcester sy’n darparu gwres a dŵr poeth i ran hon yr adeilad. 

Ffenest UPVC i’r ochr gyda golygfeydd o’r ardd. Bleind Rhufeinig. 

Ystafell Gawod 

O ystafell yr ardd ceir drws onnen soled gyda ffitiadau haearn du i’r ystafell gawod sydd wedi’i ail-ffitio’n llwyr gan y perchnogion presennol ac sy’n cynnwys uned gawod fawr gyda chawod Bristan Joy, sinc ddysgl a thoiled pedestal lefel isel. Cwpwrdd wal, drych a phwynt eillio gyda golau. Llawr teils chwarel. 

Rheilen dywelion â gwres a ffenest UPVC dryleu i’r cefn.  

Llawr Cyntaf 

O’r gegin ceir grisiau â charped i landin oriel gyda llawr pren laminedig a ffenest Velux â bleind. Ffenest a bleind i’r ochr. Rheiddiadur gyda chlawr.   

Ystafell Wely 1  

Ceir mynediad i ystafell wely 1 drwy ddrws â gorffeniad pren naturiol. Dyma’r ystafell a ddefnyddir gan y perchnogion presennol fel prif ystafell wely. Ffenest gwydr dwbl UPVC yn edrych dros ardd y chwarel yn y cefn. 

Cwpwrdd dillad gosod mawr gyda drysau â gorffeniad pren naturiol. Carped drwy’r ystafell. Rheiddiadur.  

Ystafell Wely 2  

Mae gris isel o’r landin yn arwain i ystafell wely 2 drwy ddrws â gorffeniad pren naturiol. Ffenestri Velux gyda bleindiau. Rheiddiadur 

Ystafell Ymolchi 

Ail-ffitiwyd gan y perchnogion presennol yn ystod eu perchnogaeth. Mae’n cynnwys uned gawod ar wahân gyda chawod Triton Alicante, bath ar wahân gyda thap cymysg, toiled lefel isel, pedestal sinc derw gyda sinc basn crwn a thap cymysg. Drych. 

Llawr teils. Gwresogydd wal trydan a rheilen dywelion â gwres. Ffenest UPVC dryleu i’r cefn. 

Cwpwrdd cadw meddyginiaeth a lle storio o dan y bath. 

O Ystafell yr Ardd 

Grisiau carreg a phren gyda rheilen fetel yn arwain at: 

Ystafell Wely 3  

Mynediad drwy ddrws pren onnen soled gyda fitiadau haearn du. Carped drwy’r ystafell. 2 ffenest UPVC i’r blaen. Trawstiau agored.  

Polion llenni. 

Cwpwrdd storio gyda golau.  

Ystafell Wely 4  

Mynediad drwy ddrws pren onnen soled gyda fitiadau haearn du. Carped drwy’r ystafell. 1 ffenest UPVC i’r blaen. Trawstiau agored. Polyn llenni. 

Pen gwely dwbl wedi’i ffitio. Sedd gornel wedi’i mewnosod. 

Ardal landin gydag ysgol sy’n gollwng i roi mynediad i storfa yn y llofft â byrddau. 

  

Tu Allan 

Swyddfa Ystafell yr Ardd 

Adeiladwyd hon gan Garden Rooms Wales yn 2017. Ffrâm bren ar gynalyddion blocwaith yw’r adeilad, gyda chladin cedrwydd ac wedi’i inswleiddio’n llawn. Ceir dwy ffenest UPVC i’r ochr yn edrych dros yr ardd. Mae gan y rhain fleindiau delltog pren. 

Drws UPVC gwydr llawn gyda bleind cyfannol.  

Mae gan yr ystafell lawr laminedig ac mae’r waliau a’r nenfwd wedi’u gorffen â phlastr. Gosodwyd y cyflenwad trydan yn broffesiynol gan Garden Room Wales ac mae’n cynnwys socedi helaeth, gwresogydd wal a goleuadau uwchben. Pwynt ffôn. 

Ceir nifer o gypyrddau storio. 

Mae yma doiled ar wahân gyda basn a ffenest UPVC, drych a chwpwrdd wal. Golau allanol.  

  

Gweithdy  

Ceir mynediad i’r gweithdy ar hyd llwybr concrit. Mae wedi’i adeiladu o friciau/blociau gyda gro chwipio, drws pren a ffenest ochr. Bwrdd ffiwsys trydan. 

Mainc weithio gyda socedi 240-folt a golau.  

Cypyrddau storio a silffoedd. 

Stiwdio/cwt potio 

Gerllaw’r gweithdy mae stiwdio bren (a ddefnyddir ar hyn o bryd fel cwt potio) gyda drws, ffenestri a tho wedi’i inswleiddio. Socedi 240-folt a golau. 

Storfa Penty 

Y tu ôl i’r cwt potio ceir ardal â decin gyda storfa penty fetel. 

Tŷ Gwydr 

Adeiladwaith cedrwydd  

Parcio ar gyfer 4-5 car   

Pwynt gwefru cerbyd trydan 7kw.   

Storfa goed 

Cysgod barbeciw (y gwyllt)  

Mannau eistedd awyr agored 

Gardd  

Mae’r ardd wedi’i datblygu gyda dealltwriaeth dros 12 mlynedd ac yn cymryd ei le’n gydnaws yn y tirlun. Mae iddi 5 ardal benodol ac mae wedi’i chynllunio i ennyn diddordeb drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys borderi blodau, planhigion coedwigol cysgodol gyda phyllau dŵr i fywyd gwyllt, gardd lysiau dim-palu gyda gwelyau uchel ar gyfer llysiau a ffrwythau, coed ffrwythau ac ardal blodau gwyllt gyda golygfeydd dros yr hen chwarel. Mae’n ardd gwbl breifat sy’n cynnwys nifer o fannau i eistedd a bwyta yn yr awyr agored. Mae’r perchnogion yn falch i agor yr ardd i ymwelwyr bobl blwyddyn fel rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol i godi arian i elusen.